Annwyl Ken
Amserlen o ran y rheilffyrdd
Wrth ddatblygu ein blaenraglen waith, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad yn bwriadu cynnal ymchwiliad i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Masnachfraint Rheilffordd newydd Cymru a’r Gororau ac ar gyfer y Metro.
Er mwyn ein helpu i gynllunio’n gwaith ar y pwnc hwn, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ysgrifennu ataf yn nodi’r amserlen ar gyfer caffael a chyflenwi’r fasnachfraint a’r Metro, gan dynnu sylw at gerrig milltir allweddol, yn enwedig trefniadau ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd, ac amlinelliad o’r ffordd yr ydych yn bwriadu mynd ati i weithredu. Bydd hyn yn ein galluogi i nodi’r amser gorau i wneud y gwaith ar y materion hyn a sicrhau ei fod yn gyfraniad adeiladol at y drafodaeth gyhoeddus.
Yn benodol, rwy’n nodi o’ch datganiad ar 12 Gorffennaf eich bod yn bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar set glir o gynigion yn gynnar yn 2017. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi manylion pellach am yr ymgynghoriad hwn, yn enwedig pwnc yr ymgynghoriad, yr amserlen a’r gallu i wneud newidiadau i’ch cynlluniau yn sgil canlyniadau’r ymgynghoriad.
Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb.
Cofion cynnes
Russell George AC
Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau